Jump to content

User talk:Xxglennxx

From translatewiki.net

Contents

Thread titleRepliesLast modified
ContentTranslation009:46, 9 June 2015
PLURAL414:45, 14 November 2010
Ffeil216:27, 26 September 2010
Bathu termau am y grwpiau015:27, 29 August 2010
Steil cyfieithu621:12, 5 August 2010
Croeso122:07, 24 June 2010
Welcome to translatewiki.net!021:47, 21 June 2010

ContentTranslation

Hi!

Can you please help complete the translation of the ContentTranslation extension? It is being deployed to the Welsh Wikipedia this week, and it would be great to have it fully translated.

Thank you very much!

Amir E. Aharoni (talk)09:46, 9 June 2015

Wedi gosod is-dudalen newydd i'r porth Cymraeg, yn trafod PLURAL - [1]. Mae nodiadau tebyg eisoes ar Wicipedia, ac ar dudalen sgwrs y porth Cymraeg. Gofynnwch os nad wyf wedi ysgrifennu'r nodiadau'n ddigon clir.

Lloffiwr20:26, 26 July 2010

Diolch. Dwi'n drysu efo'r negeseuon 'ma, felly gadawa i nhw i ti a chyfieithwyr eraill! :D

Xxglennxx20:08, 27 July 2010

Roedd yn hen bryd dechrau rhoi trefn ar y porth Cymraeg, felly diolch am fy ysgogi i wneud hynny. Mae'n cymryd amser i arfer â chyfieithu negeseuon, mae'n wir, ac mae'n waith sy'n blino dyn yn rhwydd. Os daw chwant arnat ti roi cynnig arall arni, byddaf yn falch cael dy gwmni yma eto.

Lloffiwr21:58, 27 July 2010

O na, dwi'n dal i gyfieithu! Fi'n mynd i ad fe (sef y negeseuon plural) i bobl eraill sydd â mwy o brofiad na finnau :) O na, ti ddim wedi cael gwared â fi eto, haha!

Xxglennxx23:33, 28 July 2010

Wedi diweddaru'r negeseuon gyda lluosog ynddynt ar yr Upload Wizard. wedi cymryd hydoedd oherwydd braidd yn brysur.

Lloffiwr14:45, 14 November 2010
 
 
 
 

Wedi cadarnhau yng Ngeiriadur yr Academi mai gair benywaidd yw 'ffeil'. Wedi newid MediaWiki:Sourcefilename/cy yn ôl. Os oedd yna negeseuon eraill lle roedd 'ffeil' yn cael ei ddefnyddio fel enw gwrywaidd yna bydd eisiau eu newid nhw hefyd. Cofion

Lloffiwr16:49, 29 August 2010

Iawn. Yng Nghysgeir, mae "ffeil" yn wrywaidd a benywaidd, a newidiais i fe oherwydd yr oedd yn actio'n wrywaidd mewn un lle, ac yn fenywaidd mewn un lle arall :)

Xxglennxx00:19, 13 September 2010

Iawn.

Lloffiwr16:27, 26 September 2010
 
 

Bathu termau am y grwpiau

Wedi gosod sgwrs ar Wicipedia am y termau newydd ar grwpiau defnyddwyr, fel ag a soniais amdano ar borth y Gymraeg. Cawn weld a gawn ni ymateb. Diolch am fwrw iddi gyda'r termau yma - mae'n dda cael mwy nag un wrthi yma.

Lloffiwr15:27, 29 August 2010

Steil cyfieithu

Weithiau rydych wedi newid cyfieithiad rhydd yn ôl at gyfieithiad agosach at y gwreiddiol, megis gyda MediaWiki:Tog-usenewrc/cy&action=historysubmit&diff=2179944&oldid=1195753. Mae nhw'n argymell gwneud pethau mor ddealladwy a phosibl, ond heb wneud y cyfieithiad yn berthnasol i rai wiciau yn unig, na newid y cystrawen wici. Gwell trafod yn o fuan felly, mater steil y cyfieithiad Cymraeg, fel ein bod yn cytuno ar ffordd o fynd ati fan hyn. Rhaid dweud, byddaf yn falch o gael barn arall ar rai o'r cyfieithiadau, i gael sicrhau eu bod yn ddealladwy.

Yn yr enghraifft uchod, felly, ydych chi'n meddwl bod ystyr y neges nawr yn ddigon clir i'r darllenwyr? Mae mantais mewn bod yn fyr, yn sicr, ac rwyn cymryd mae dyna pam mae'r negeseuon Saesneg mor fyr, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod hyn yn gweithio yn Gymraeg.

Lloffiwr12:58, 14 July 2010

Helo! Y rheswm gwnes i newid yr uchod, er enghraifft, oedd achos ei fod yn cynnwys collnodau yn y Gymraeg, ond nid yn y Saesneg. Nid oedd yn cynnwys prif-lythyren yn y Saesneg ychwaith, ac o'm meddwl i, mae "fersiwn" yn air gwrywaidd?

Ydw, dwi'n meddwl ei fod yn glir. Pe rydym yn cynnwys "fersiwn gwell," fydda i'n cyfieithu hynny i olygu "a better version" neu "advanced version." Nid yw'r blaenorol yn cyd-fynd â'r Saesneg, neu gyfleu hyd yn oed yr un neges, ac efo'r llall, siŵr o fyd y deallir y neges gyfredol wrth feddwl am y gair "advanced" efo "gwell."

Dwi'n cytuno â chi ar y pwynt arall - efallai bydd angen ehangu testun weithiau arnom, ond nid gyda'r uchod, er enghraifft.

Xxglennxx23:36, 14 July 2010

Wedi edrych ar y neges fel ag y mae'n ymddangos yn y rhyngwyneb, ac yn gweld bod digon o wybodaeth yn y cyd-destun i wneud yr ystyr yn eglur - petawn i hanner call byddwn wedi edrych arno yn y lle cyntaf! Gallwch fy ngalw'n 'ti', gyda llaw, os yr hoffech.

Lloffiwr20:18, 18 July 2010

LOL. Sut wyt ti'n gallu edrych arnyn nhw? Fasai hynny o gymorth imi yn hun a dweud y gwir! Yr un peth iti hefyd - galwa fi'n "ti" (neu 'chdi' os rwyt yn dod o'r Gogledd, ha).

Xxglennxx23:29, 18 July 2010

Rhyfedd gweld lol mewn neges Gymraeg.....

Dydw i ddim yn gallu defnyddio'r wiciau arbrofol y mae rhai o'r datblygwyr yn eu defnyddio. Dim ond dyfalu lle y byddai dyn yn debygol o weld y neges ydw i. Weithiau mae teitl y neges yn rhoi dyn ar ben ffordd. Neu weithiau mae un o'r cyfieithwyr wedi cynnwys cyswllt at y dudalen pwrpasol yn y nodiadau ar y neges, neu wedi llwytho ciplun ohoni. Os wyt ti'n digwydd bod yn gwybod lle neu phryd mae rhyw neges yn ymddangos, sydd ddim yn amlwg o'r teitl, gelli ychwanegu'r wybodaeth at y nodiadau ar dudalen qqq y neges. Mae pawb sy'n fodlon gwneud yn gallu dechrau ychwanegu at y tudalennau hyn ar ôl dod yn gyfarwydd â chyfieithu yma.

Mae'r cyswllt at y dudalen 'dewisiadau' (tab y newidiadau diweddar) yn y nodiadau (information about message.....) ar y neges uchod - gweler [1].

Lloffiwr12:26, 19 July 2010

Ah iawn, dim problem. Ie, gwnaf :) Fyset ti'n meddwl fysai Wikipedia yn gwneud hynny ta waith!

Xxglennxx20:06, 27 July 2010
 
 
 
 
 

Croeso i translatewiki.net a diolch am wneud cyfraniadau yma. Mae digon o waith i'w wneud yma i gadw byddin gyfan yn hapus! Rwyf wedi diwygio rhai o'ch cyfieithiadau. Os ydych am eglurhad am y newidiadau, holwch. Rwyf wedi gosod tudalen yn enw benywaidd er mwyn bod yn gyson â gweddill y negeseuon.

Lloffiwr20:14, 24 June 2010

Helo! Diolch am y croeso. Iawn, dim problem. Bydda i'n cofio fod y gair yn fenywaidd o hyn ymlaen gyda chyfieithiadau :)

Xxglennxx22:07, 24 June 2010
 

Welcome to translatewiki.net!

Hi Xxglennxx. Welcome to translatewiki.net!

You can now start translating.

You should also check the portal for your language, the link is in the sidebar. Other useful pages are linked in the menu next to this message.

Your translations are transferred to the standard product every few days or every few weeks, depending on the product. Please notice that it may take longer before you see your translation in the actual product.

We wish you a productive and pleasant stay. Please leave any questions on Support (the link is also available on any page, in the navigation sidebar). Cheers!

21:47, 21 June 2010