Jump to content

User talk:Pwyll

From translatewiki.net

Contents

Thread titleRepliesLast modified
ContentTranslation009:46, 9 June 2015
negeseuon y Fundraiser121:56, 10 November 2011
Cyfieithu iHRIS?116:56, 28 October 2011
en-GB Translations015:34, 25 October 2011
Croeso512:43, 25 October 2011
Ychwanegu dy enw at restr y cyfieithwyr Cymraeg018:04, 24 October 2011
Welcome to translatewiki.net!015:03, 16 August 2010

ContentTranslation

Hi!

Can you please help complete the translation of the ContentTranslation extension? It is being deployed to the Welsh Wikipedia this week, and it would be great to have it fully translated.

Thank you very much!

Amir E. Aharoni (talk)09:46, 9 June 2015

negeseuon y Fundraiser

Mae negeseuon newydd wedi ymddangos yn ddiweddar yn y grwp donation interface - gateway common. Dwi ddim yn siwr faint ohonynt sydd o ddefnydd i ni a bod tudalennau'r fundraiser yn mynd trwy Wikimedia UK. Ond mae rhai ohonynt yn sicr o ddefnydd - maent i'w gweld ar y landing page a osodwyd ar Wicipedia Cymraeg ddoe. Mae'r gwaith fan hyn yn ddi-ben-draw!

Lloffiwr (talk)08:22, 8 November 2011

Mae'n debyg mai camgymeriad oedd gosod tudalennau'r fundraiser ar y wefan Gymraeg p'ddiwrnod - doedd y system ddim yn barod eto mae'n debyg.

Lloffiwr (talk)21:56, 10 November 2011
 

Cyfieithu iHRIS?

Diolch yn fawr am dy gyfieithiadau diri. Sylwais dy fod wedi bwrw ati i gyfieithu iHRIS. Siawns dy fod wedi sylweddoli erbyn hyn mai prin yw'r angen am hwn yn Gymraeg, gan nad yw'r NHS yn defnyddio iHRIS. Yn Affrica ac Asia mae'r galw am gyfieithu hwn.

Mae rhestr o'r prosiectau i gael lle y gelli fynd at wybodaeth am y prosiectau sy'n gymorth wrth benderfynu pa bethau sydd orau i'w cyfieithu.

Lloffiwr (talk)12:40, 28 October 2011

O diawl! Dywedes i nad o'n i'n siwr iawn beth ro'n i'n gwneud on'd do fe?!! Ond o ddifri', diolch am bwyntio hwnna mas... Fe sticiai at estyniadau MediaWiki o nawr 'mlaen. Pwyll (talk) 16:56, 28 October 2011 (UTC)

Pwyll (talk)16:56, 28 October 2011
 

en-GB Translations

Hey Pwyll,

I just noticed you've been making Translations in Welsh in the en-GB language space. The en-GB language space is for translations in British English (because apparently English on the internet is the American variant), and the Welsh space is 'cy'... this basicly means that the fallback has been over written and the users that use the en-GB variant of MediaWiki are seeing Welsh translations in their interface, instead of English. These changes have been undone, but could you check your using the correct space when your making changes :)

Thanks for all your help!

Lcawte (talk)15:34, 25 October 2011

Croeso i translatewiki.net. Nes i ddim sylweddoli eich bod wedi ymuno â translatewiki.net tan nawr. Os oes angen cymorth arnoch i ddechrau cyfieithu gallwch adael neges ar fy nhudalen sgwrs. Fel ag ym mhob un o'r prosiectau mae digonedd i'w wneud!

Lloffiwr15:31, 19 December 2010

Diolch am ddechrau arni gyda'r cyfieithu - mae'n dda cael un arall eto i rannu'r baich. Os byddi di'n blino ac yn neidio at rhywbeth arall, fel yr wyt yn so^n ar dy dudalen defnyddiwr, yna dwi'n gobeithio y byddi'n neidio'n o^l fan hyn dro ar o^l tro! :-)

Lloffiwr (talk)12:43, 19 October 2011
Edited by author.
Last edit: 20:40, 20 October 2011

Yr ateb pennaf i dy gwestiwn yw - beth bynnag sy'n mynd a^'th fri. Rho bip ar y rhestr prosiectau. Gelli fynd at y negeseuon drwy'r teclyn cyfieithu. Os wyt ti'n fodlon mynd i'r afael a^ Mediawiki yna'r rhai pwysicaf yw'r is-grwp 'Extensions used by Wikimedia - Main' o fewn 'Mediawiki extensions'. Os wyt ti'n gweld y 730 o negeseuon yn yr is-grwp hwn yn ormod o bwdin, gelli wasgu 'expand' ar 'Mediawiki extensions' a dewis un o'r grwpiau sydd wedi dechrau cael eu cyfieithu ond nag yw heb gyrraedd 100%, e.e. [1]. Tipyn yn llai o bwdin!

Mae nodiadau ar PLURAL yn Gymraeg i gael ar borth y Gymraeg.

Y nodau arbennig wrth droed y blwch golygu yn pallu gweithio ers rhai diwrnodau - i fi no - rhaid riporto hwn cyn hir neu fe fydd cyfieithu yn waith digon blin! Unrhyw broblem, mawr neu bach, rho wybod ac fe geisiaf ateb pan gaf gyfle.

Lloffiwr (talk)12:22, 20 October 2011

Mae rhywun newydd rhoi gwybod ar support ac ar FAQ am ffordd newydd o ddod o hyd i neges wyt ti am ei gyfieithu ar translatewiki.net, pan y gweli di ryw neges yn Saesneg ar Wicipedia/Wiciadur/ayb yr wyt am ei gyfieithu. Co'r disgrifiad fan hyn.

Lloffiwr (talk)20:19, 20 October 2011

Diolch am yr arweiniad. Dw i'n gweld transkatewiki yn dipyn mwy o labyrinth na'r wicis arferol, ond mater o gyfarwyddo a system newydd yw e, sbo... Gewn ni wekld shwt eith pethe!! Diolch am yr help unweaith 'to. Pwyll (talk) 06:56, 25 October 2011 (UTC)

Pwyll (talk)06:56, 25 October 2011

Dwi'n cytuno'n llwyr. Fe ges i drafferth ofnadw yn dysgu sut i weithio fan hyn. Ond credu di neu beidio, fe ges hyd yn oed mwy o ffwdan gyda'r gwefannau Omegawiki a CLDR! Oherwydd fy mod wedi cael trafferth dysgu defnyddio translatewiki.net fe ddechreuais dudalen o FAQs yma ond mae hwnnw'n hen erbyn hyn. Pan fydd amser gennyf gwnaf geisio ysgrifennu tudalennau help fan hyn. Os wyt ti am, gelli roi gwybod beth oedd yn peri trafferth i ti, er mwyn i fi ei gynnwys yn y tudalennau cymorth.

Lloffiwr (talk)12:43, 25 October 2011
 
 
 
 
 

Ychwanegu dy enw at restr y cyfieithwyr Cymraeg

Byddai'n gret petai ti'n fodlon torri dy enw ar borth y Gymraeg, yn rhestr y cyfieithwyr.

Lloffiwr (talk)18:04, 24 October 2011

Welcome to translatewiki.net!

Hi Pwyll. Welcome to translatewiki.net!

You can now start translating.

You should also check the portal for your language, the link is in the sidebar. Other useful pages are linked in the menu next to this message.

Your translations are transferred to the standard product every few days or every few weeks, depending on the product. Please notice that it may take longer before you see your translation in the actual product.

We wish you a productive and pleasant stay. Please leave any questions on Support (the link is also available on any page, in the navigation sidebar). Cheers!

15:03, 16 August 2010