Portal:Cy/Nodiadau ar leoli ym mharth y Gymraeg
PLURAL yn Gymraeg
Mae'r rheolau sy'n trin brawddegau sy'n cynnwys rhifau neu'n dibynnu arnynt yn amrywio ar y gwahanol brosiectau. Dyma dabl o'r gwahanol reolau. Mae'r gystrawen a ddefnyddir mewn negeseuon hefyd yn amrywio o brosiect i brosiect.
Er gwybodaeth, mae gan Ganolfan Bedwyr bapur ar y pwnc hwn, sef Welsh numbering in Software Code.
PLURAL Mediawiki yn Gymraeg
Dyma'r set o rifau sy'n cael eu trin ar wahan gan feddalwedd MediaWiki, a rhai prosiectau eraill:
- 0 – er mwyn negyddu'r frawddeg gyfan
- 1 - yn achosi treiglad meddal ar enwau benywaidd, ayb sy'n dilyn
- 2 - yn achosi treiglad meddal ar enwau sy'n dilyn
- 3 - yn achosi treiglad llaes ar enwau gwrywaidd sy'n dilyn
- 6 - yn achosi treiglad llaes ar enwau sy'n dilyn
- 4,5, >=7, 1.2 - dim treiglad
Dyma enghraifft o neges sy'n defnyddio PLURAL, watchlistdetails (gyda'r 6 allbwn):
{{PLURAL:$1|Ddim yn gwylio unrhyw dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 tudalen|Yn gwylio $1 thudalen|Yn gwylio $1 tudalen}} heb gynnwys tudalennau sgwrs.
Gan amlaf nid oes angen gosod unrhywbeth ar gyfer 0 yn MediaWiki (trwy beidio â gosod dim rhwng y gwahanyddion ||), weithiau oherwydd nad yw 0 yn bosibilrwydd yn y frawddeg, neu weithiau mae'r datblygwyr eisoes wedi gwneud neges ar wahan, sy'n ymddangos yn lle'r neges arall os yw'r rhif yn 0.
Os ydy'r neges yn cynnwys PLURAL yn Saesneg rhaid defnyddio PLURAL yn Gymraeg ar gyfer negeseuon MediaWiki, i arbed y rhaglen rhag marcio'r neges yn wallus, yn awtomatig. Os nag oes angen PLURAL yn Gymraeg, gallwch ysgrifennu'r neges unwaith yn unig, yn hytrach na 6 gwaith, e.e. {{PLURAL:$1|$1 neges}}.
PLURAL ar brosiectau sy'n defnyddio data CLDR
Mae'r rheolau PLURAL ar CLDR yr un fath â'r rhai ar Mediawiki. Ond mae pob prosiect sy'n defnyddio data CLDR yn cadw ei bas data PLURAL ei hunan, ac nid ydynt i gyd yn defnyddio'r fersiwn diweddaraf o CLDR, nac yn defnyddio'r un fframwaith meddalwedd i drin y data. Gallwch wirio'r rheolau a'r gystrawen a ddefnyddir gan brosiect arbennig trwy ddarllen y nodiadau ar PLURAL ar dudalen y brosiect.
PLURAL ar brosiectau sy'n defnyddio data Gettext
Gweler y nodiadau hyn. Mae'r rheolau i'r Gymraeg ar fersiwn translatewiki.net o Gettext yr un fath â rhai Mediawiki.
Geirfa WikiMedia
Cyn bod translatewiki.net fe fyddai termau technegol WikiMedia yn cael eu trafod ar y Wicipedia Cymraeg, ar y Caffi Iaith. Yn y fan honno mae'r trafod yn digwydd o hyd, oherwydd bod mwy o ddefnyddwyr yn cyfrannu yno nag sydd yma. Mae geirfa o dermau WikiMedia yn cael ei gynnal yno. Mae rhestr o dermau technegol cyffredinol hefyd i gael ar Wicipedia. Pan fydd term newydd yn cael ei fathu neu ei ddefnyddio yma, cyn ei fod wedi ymddangos mewn geiriadur, gellir ei ychwanegu at y rhestr honno.