Jump to content

Manylion uwchlwytho lluniau

Manylion uwchlwytho lluniau

Helo. Dwi wedi bod yn meddwl am sut mae osgoi pobl yn uwchlwytho delweddi/ffeiliau i cy ac anwybyddu cynnwys manylion y ffeil. Fel y gwyddem, mae hyn yn annerbyniol a gall dorri hawlfraint Wicipedia. Felly, dwi wedi bod yn chwilio am sut mae cael rhyw fath o ddewin uwchlwytho fel sydd gan de fan hyn, lle gwelir ein nodyn Gwybodaeth. A oes modd cael y wybodaeth yn y blwch yn barod?!

Xxglennxx16:19, 9 May 2011

Pan driais i wneud dewin tebyg i'r un ar y wici Almaeneg rhai blynyddoedd yn ôl fe fethais ddeall sut mae cael y testun wici i ymddangos yn y blwch. Roedd y dechnoleg i wneud hynny yn weddol o newydd ar y pryd ac roeddwn yn amau nad oedd modd ei wneud ar y Wicipedia Cymraeg y pryd hynny (mae technoleg newydd yn cyrraedd y wicis mawrion ynghynt na'r rhai bychain).

Gan fod modd uwchlwytho lluniau nad ydynt yn gwbl rhydd ar Wicipedia, yn ôl ein polisi, bydd angen llinell ychwanegol arnom yn y blwch yn rhoi cyfiawnhad dros lwytho llun nag ydyw'n gwbl rhydd. Neu fe allem wneud yr un peth a'r Wikipedia Saesneg sy'n neidio i dudalen arall i drafod y cyfiawnhad. Ond methais ddeall sut mae gwneud y naid honno chwaith!

Wyt ti wedi deall sut mae cael y system uwchlwytho i weithio fel yr un Almaeneg?

Fe wnaf olygu'r nodyn "Gwybodaeth" yr wyt wedi ysgrifennu, rhywbryd wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn - ni fyddaf adref am beth o wythnos nesaf.

Lloffiwr20:54, 15 May 2011

Wel, dwi wedi gadael neges ar de fan hyn, ac mae rhywun wedi awgrymu inni ofyn am gymorth yn Bugzilla. Dwi wedi chwilio am y trywydd cysylltiedig yn de, ond methu ffeindio sut mae gwneud fe...

Gobeithio y gallwn ni ddatrys y peth yn fuan - mae'n heb bryd inni dynhau ein polisïau uwchlwytho ar cy, na chytunet?

Xxglennxx23:32, 15 May 2011

Wrth edrych ar god y dudalen uwchlwytho ffeiliau Almaeneg (gweler uchod), dwi wedi dod o hyd i ddau ddarn o god, sef wpUploadDescription a mw-htmlform-description, ond dwi ddim yn gallu eu ffeindio yn y teclyn cyfieithu! Ond dwi'n credu mai nhw yw'r codau i gyfieithu!

Xxglennxx23:42, 15 May 2011

Rwyn credu y dylet ti allu holi am gymorth gyda pethau technegol fel hyn gan y "Small Wiki Monitoring Team". Neu gallet fynd i Chatzilla a siarad ar y pryd gyda rhai o'r datblygwyr.

Unwaith bod ffurflen uwchlwytho pwrpasol gennym yna fe fydd llawer yn haws gweithredu'r polisi.

Lloffiwr12:32, 16 May 2011
 

Os ei di i'r rhestr negeseuon ar de fe weli di'r neges uploadtext wedi ei restri, a'r cynnwys yw {{MediaWikiUploadtext/real|$1}}. Os bwysi di ar "Uploadtext" fe ei di at MediaWiki:Uploadtext ond os bwysi di ar "Diskussion" fe ei di at dudalen sgwrs MediaWiki:Uploadtext/real. Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy dudalen, ond mae'n ymddangos bod angen defnyddio'r is-dudalen /real i gael y peth i weithio.

Lloffiwr21:51, 16 May 2011
 

Mae'n bosib mai gadael neges ar Bugzilla fydd raid, os oes rhyw estyniad angen ei osod yma cyn i na allu cael y dewin i weithio'n debyg i'r un ar de.

Lloffiwr20:51, 16 May 2011

Helo. Ti sy'n iawn wrth ddod o'i hyd, ac felly dwi wedi gadael neges ar Bugzilla fan hyn. Gobeithio rydym yn datrys hyn yn fuan - dim ond angen edrych ar y categori hwn i weld maint y problem - a hynny ers mis Ebrill cynnar dwi'n credu! Duw a wyr faint o ddelweddi/ffeiliau eraill sydd heb fanylion!

Xxglennxx21:05, 17 May 2011
 

Mae hi wedi'i datrys! Cer i Arbennig:Upload i weld! OK, os wyt ti eisiau newid pethau, y ffeiliau perthnasol ydy MediaWici:Uploadtext sy'n dangos y testun efo baneri oren a glas ayyb, a MediaWici:Onlyifuploading.js, sy'n dangos y paramedrau. Eto, mae'r holl wybodaeth (yn Saesneg yn anffodus) yma ar Bugzilla.

Xxglennxx23:14, 23 May 2011